Fel y bydd unrhyw un a fu’n darllen y golofn hon dros y ddau ddegawd diwethaf yn gallu tystio, tydw i fawr o broffwyd! Ond go brin fy mod wedi cael fy mhrofi’n fwy anghywir yn fwy cyflym nag yn y mis ers ysgrifennu’r golofn ddiwethaf. Bryd hynny roeddwn yn darogan yn dalog fel a ganlyn am y blaid sydd wedi chwyldroi gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol dros y blynyddoedd diwethaf:
‘Y disgwyl felly yw y bydd cefnogwyr UKIP yn ysglyfaeth rwydd i ymdrechion y Ceidwadwyr i’w hudo i gefnogi eu hymgeiswyr hwy. Ond tybed? Mae’n werth nodi un ffaith fach ddiddorol. Er gwaethaf ei helbulon amlwg a dirifedi, mae’r arolygon barn yn awgrymu fod tua un mewn deg o’r etholwyr yn parhau’n ffyddlon i UKIP...’