Roedd Iwan a’i ddau fab yn wên o glust i glust. ‘Mae’r plant ’ma wedi’u difetha,’ meddai’r tad balch wrth bostio llun ohono fe a Lleu a Caeo ar ei gyfrif Facebook, y tri ohonynt ar y cae yn dathlu. ‘Dedfryd oes!’ atebais innau gan wybod bod yna fwy o boen nag o bleser i ddod wrth i’r plant dreulio eu bywydau yn dilyn tîm pêl-droed Dinas Caerdydd.
Ond am y tro, hyd nes i gárnifal yr Uwch Gynghrair ailgychwyn ym mis Awst, gallwn ni i gyd ymfalchïo yn llwyddiant un o dimoedd llai ffasiynol y byd pêl-droed. Na, dyw e ddim wedi bod yn dymor i’r puryddion. Roedd ein gwaredwr, y rheolwr Neil Warnock, yn gwybod yn union beth oedd ei angen i ennill dyrchafiad. Undod o fewn y garfan, cicio’r bêl mor bell ag oedd yn bosib, a chicio’r gwrthwynebwyr hefyd, o fewn rheolau’r gêm, wrth gwrs. Pêl-droed ‘diwydiannol’ efallai, ond llwyddiannus hefyd.
Dyna’r math o chwarae y mae cefnogwyr Caerdydd wedi arfer ag e ers dyddiau’r cyn-reolwyr Frankie Burrows, Eddie May a Dave Jones. Yn wir, dyma’r pêl-droed ry’n ni’n ei lecio. Ac am unwaith fe lwyddodd y dull hyll. A’r tymor nesaf bant â ni’r Adar Gleision i Old Trafford a’r Emirates yn hytrach nag i Barnsley a Burton.
Prin fu’r cyfnodau o bêl-droed agored y tymor hwn. Chwaraewr y tymor oedd yr amddiffynnwr a’r capten Sean Morrison, nid rhyw seren o streicar deugain gôl. A dyna lle mae penodi Warnock wedi talu ar ei ganfed. Gydag adnoddau prin, fe lwyddodd i greu tîm allan o chwaraewyr cymedrol eu gallu, gydag undod a dycnwch yn gwneud iawn am eu diffyg sgìl a thalent. ‘Rwy’n hoffi Caerdydd,’ meddai yn un o’i gyfweliadau cyntaf wedi derbyn y swydd. ‘Fy math i o glwb, fy math i o bobol.’ A dyna pam y mae dyrchafiad y tro hwn gymaint yn fwy pleserus. Achos bod y tîm wedi gweithio am bob un pwynt, a ninnau’r cefnogwyr wedi dioddef pob cic, pob cerdyn a phob anaf gyda nhw. Siwrne oedd hi. Tymor o ffydd, gobaith a gwaith caled. Ac o edrych yn ôl, mi wnes i fwynhau pob munud ohono.