Adolygiad o arddangosfa David Nash, ‘Sculpture Through the Seasons / Cerfluniau’r Tymhorau’, yn yr Amgueddfa Genedlaethol
Yn un o ystafelloedd cyntaf yr arddangosfa hirddisgwyliedig hon o waith y cerflunydd a’r artist tir David Nash, mae fideo byr sy’n gosod y naws. Dilynwn hanes un o weithiau’r artist – Wooden Boulder, clogfaen pren a gerfiwyd, fel holl waith Nash ers degawdau, ym Mlaenau Ffestiniog – wrth i rymoedd naturiol newid ei safle. Am gyfnod hir mae’r darn o bren yn gorwedd yn heddychlon mewn aber, wedyn mae stormydd yn ei gipio neu’n ei foddi am flynyddoedd, cyn iddo ailymddangos eto. Gwna’r fideo i ni gydymdeimlo â’r clogfaen mewn modd tebyg i’r ffyrdd y mae ffilmiau Pixar yn ein cyflyru i gydymdeimlo â gwrthrychau difywyd, o geir rasio i roliau bao. Cawn ein hunain yn ymboeni amdano wrth iddo wynebu helyntion ac yn gobeithio y daw drwyddi.
Dim ond un enghraifft yw ôl-fywyd y darn enwog hwn – ei daith hir a lliwgar y tu hwnt i law yr artist – o’r ffordd y mae holl waith David Nash yn ddibynnol ar bŵer anrhagweladwy natur ar gyfer ei lunio a’i dderbyniad cyhoeddus.