Fel rhywun sy’n hoff o ddilyn y cyfryngau cymdeithasol am resymau addysgol ac adloniannol, mi ydw i wedi gweld mwy na fy siâr yn ddiweddar o ffrindiau a chydnabod yn llyncu wy amrwd, wedyn llwyaid o siwgr, wedyn crogiad o’r ddiod gadarn cyn enwebu ffrindiau i wneud yr un peth.
Her codi arian sydd wedi mynd yn ‘feiral’ yw hon, a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n derbyn yr arian. Cyn imi ddechrau swnio’n ddiflas a phregethwrol, mi ddylwn gyfaddef bod ambell fideo o’r fath yn ddigon doniol – ond ddim yn ddigon doniol imi ystyried ymgymryd â’r fath her fy hun chwaith!
Mae cyfraniadau tuag at y GIG wedi cynyddu’n enfawr yn ddiweddar, gyda bron £117 miliwn wedi ei godi trwy gyfraniadau elusennol ers dechrau’r pandemig yn y DU. Ond arhoswch. Onid cyllid y wlad, trwy drethi a chyfraniadau yswiriant gwladol, a ddylai fod yn ariannu’r GIG llawn?