O fewn deuddydd i’r sibrydion cyntaf ddod i’r amlwg ynglŷn â’r bleidlais diffyg hyder ynddi, roedd Arlene Foster wedi cyhoeddi ei hymddiswyddiad fel arweinydd y DUP a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon.
Ar ôl cystadleuaeth fewnol (y tro cyntaf i’r DUP gynnal y fath beth, sydd ynddo’i hun yn arwyddocaol), dewiswyd Edwin Poots yn arweinydd newydd. O drwch blewyn yr enillodd Poots (sydd hefyd yn arwyddocaol). Mae’n amlwg fod y DUP wedi ei rhannu’n ddwy – rhwng yr adain ffwndamentalaidd a’r adain fwy cymedrol sy’n credu y bydd ffwndamentaliaeth yn costio mwy o bleidleisiau nag y byddai’n eu diogelu neu’n eu denu’n ôl.
Ffarmwr ydi Edwin Poots. Mae o’n aelod o’r garfan draddodiadol, efengylaidd, Paisley-aidd o’r DUP i’r carn. Mae o’n credu mai dim ond 4,000 o flynyddoedd oed ydi’r Ddaear, ac mae o wedi gwneud sawl datganiad yn erbyn priodas hoyw, a hawl pobl hoyw i fabwysiadu plant. Fe wrthwynebodd Gytundeb Heddwch Belffast, ac mae o’n groch ei wrthwynebiad i’r Protocol Brexit.