Mehefin 2022 / Rhifyn 713

Cip ar weddill rhifyn Mehefin

Lleihad graddedigion Cymraeg – Peredur Lynch
Yr Alban – Y Torïaid yn llyfu eu briwiau
Gwasanaeth fasgwlaidd y gogledd – profiad hunllefus – Esyllt Calley
Faint elwach ar ôl COP26? – Gareth Wyn Jones
Taten boeth tlodi bwyd – Beca Brown
Eos Ceiriog a’r Sex Pistols – Elin Llwyd Morgan
Y Sêr Rhyfedd – Deri Tomos

Mwy
Senedd Cymru
Materion y mis

Diwygio’r Senedd – cynlluniau pellgyrhaeddol

‘Proses nid digwyddiad yw datganoli’ meddai Ron Davies, a thueddaf i gredu y dylid derbyn neu wrthod unrhyw ddiwygiadau o fewn y Senedd yn yr ysbryd hwnnw. Hynny yw, a ydyn nhw ar y cyfan yn ein symud ni fel cenedl yn y cyfeiriad cywir, neu yn y cyfeiriad anghywir? Yn achos y cynlluniau i ehangu’r Senedd tybiaf mai’r ail beth sydd yn wir.

Gellid cwestiynu, wrth gwrs, a oes angen rhagor o aelodau ar y Senedd o gwbl. Yn fy marn i, dyw arbed ychydig filiynau ddim yn arbediad os yw’n golygu nad yw’r Senedd yn gallu craffu’n effeithiol ar lywodraeth sydd â chyllideb o tua £18 biliwn. Ond mae’r ddadl honno wedi ei thrafod droeon. Llawer mwy diddorol yw’r union system bleidleisio newydd sydd wedi ei hawgrymu gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Ifan Morgan Jones
Mwy
Stormont - cartref Cynulliad Gogledd Iwerddon
Iwerddon

Parlys Stormont

Liz Truss, y Gweinidog Tramor, ydi’r gwleidydd Prydeinig diweddaraf i roi ei throed ynddi wrth siarad am Iwerddon. Yn ôl y cyn-ddiplomydd Alexandra Hall Hall, oedd yn gweithio yn Washington ar y pryd, fe ddywedodd Ms Truss wrth gynulleidfa yno yn 2019 mai’r unig bobl yn Iwerddon a fyddai’n poeni am effeithiau Brexit pe na cheid cytundeb efo Brwsel oedd ‘ffermwyr efo ychydig o faip yng nghefn y tryc’. Wrth gwrs, dydi anwybodaeth ddychrynllyd rhai o weinidogion y Goron ynglŷn ag Iwerddon (heb sôn am lwyr ddiystyru’n fwriadol beth fyddai gwir effeithiau Brexit) yn ddim syndod o gwbl i bobl yma. Ond roedd siarad mor ddilornus ar goedd yn dweud cyfrolau am agwedd Ms Truss, ac yn dystiolaeth o’r amheuaeth yn Iwerddon nad ydi llywodraeth Boris Johnson yn malio’r un botwm corn am y wlad. A dydi hi ddim yn syndod bod y llywodraeth honno unwaith wedi eto wedi ailgydio’n frwdfrydig yn y ffrae ynglŷn â Brexit a’r Protocol yn sgil etholiad Stormont ddechrau mis Mai.

Bethan Kilfoil
Mwy
Arwydd ar lwybr beiciau ger Golan, Eifionydd
O Ewrop

Beicio, cerdded a gyrru

A fydd arweinyddion dinasoedd Cymru a gwledydd eraill Ewrop yn ddigon dewr eleni i wahardd ceir ar ddydd Iau, 22 Medi? Mae pob dydd erbyn hyn yn Ddiwrnod Rhywbeth, a dyna’r diwrnod a ddynodwyd yn Ddydd Rhyngwladol Dim Ceir. Dydd Sul fu’r diwrnod arbennig hwn yn y gorffennol gan fod hynny’n creu llai o anhwylustod. Cam eithaf dewr a mentrus yw cael dydd o’r fath ar ddiwrnod gwaith. A phrawf bod yr awdurdodau’n dechrau trin y broblem o ddifrif.

Mae’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol (IEA) yn awgrymu y gellid arbed tua 380,000 casgen o olew’r dydd pe byddai dinasoedd mawr Ewrop yn unig yn gwneud pob dydd Sul yn ddydd heb gar. A phe bai’r dinasoedd hynny’n gwahardd ceir am un dydd Sul y mis byddai Ewrop yn arbed 95,000 casgen o olew’r dydd. Penderfyniad gwledydd cyfan, neu hyd yn oed drefi a dinasoedd unigol, fydd hyn – nid gorchymyn oddi uchod gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dafydd Ab Iago
Mwy
Ymgyrchydd yn dal arwydd "I am pro-life", a Nicola Sturgeon
Catrin sy'n dweud

Hawl menywod i ddewis eu tynged

Mae’r wythnosau nesaf yn rhai tyngedfennol i fenywod yn Unol Daleithiau America. Erbyn dechrau mis Gorffennaf mae’n ddigon posib y bydd yr hawl i erthylu wedi cael ei diddymu mewn o leiaf ugain talaith a hynny yn sgil argymhelliad gan fwyafrif o aelodau’r Goruchaf Lys i wyrdroi dyfarniad 1973, dyfarniad ‘Roe v Wade’ fel y’i gelwir. Y dyfarniad hwn a sefydlodd hawl gyfansoddiadol menywod ym mhob rhan o’r wlad i gael erthyliad, beth bynnag fo’r cyfreithiau yn eu talaith leol.

Gan gydnabod taw drafft o argymhelliad yw’r un diweddaraf yma a ryddhawyd yn gyfrinachol i’r cyfryngau, a bod amser i’r barnwyr dan sylw newid eu meddwl, roeddwn i’n siomedig ac yn grac pan dorrodd y newyddion am y newidiadau arfaethedig. Yn siomedig fod un o wledydd mwyaf pwerus y byd yn ystyried ymosod mewn modd mor sinigaidd ar iawnderau dynol ac yn grac am y niwed pellgyrhaeddol a allai ddeillio o hyn.

Catrin Evans
Mwy
'Goleuni', un o weithiau celf gwehyddu Elin Huws
Celf

Felly Llŷn ar derfyn dydd

Wrth gerdded i mewn i arddangosfa Elin Huws ym Mhlas Glyn-y-Weddw, yr hyn sy’n taro rhywun ar unwaith yw’r ffrwydrad o liw sydd yn ei gwaith, y gwehyddiadau tapestri yn ogystal â’r lluniadau. ‘Gorwelion’ yw enw’r arddangosfa. Tirwedd a morwedd cynefin yr artist a ysbrydolodd bob un o’r gweithiau.
Mae Elin yn byw yn Llanbedrog, dafliad carreg o’r Plas, ond nid yno y bu’n byw erioed. A’i thad, Richard, yn swyddog yn Heddlu Gogledd Cymru, symudodd y teulu o le i le cyn dod i Lŷn. Bu athrawon Celf yn ddylanwad arni mewn sawl ysgol ond Hanes oedd y pwnc a ddewisodd pan aeth i Brifysgol Bangor, wedi iddi gael ysgoloriaeth ynddo.

‘Tymor arhosais i yno,’ meddai. ‘Oherwydd Celf oedd fy myd i.’ Aeth i weld Peter Prendergast, a chrefu arno i roi lle iddi ar y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai. ‘Mi weithiais i’n galed iawn yn ystod gweddill y flwyddyn honno, a rhywsut neu’i gilydd roeddwn i’n cael fy nhynnu i faes tecstiliau.’

Pa ryfedd hynny? Ys dywed pobl, ‘Mae o ynddyn nhw fel teulu.’

Rhiannon Parry
Mwy
Albert Camus a chlawr 'Pla'
Llên

Cyfieithu clasur o nofel am bla

Afraid dweud bod y cyfieithiad yma’n amserol. A ninnau’n byw efo Covid ers rhai blynyddoedd bellach, magodd clasur Albert Camus La Peste, gryn arwyddocâd i ni yn yr oes sydd ohoni. Ond, ar wahân i’w pherthnasedd, mae nofel Camus, a gyhoeddwyd yn 1947, yn haeddu ei lle yng nghynhysgaeth ein llên a ninnau, wrth gwrs, yn haeddu’r hawl i’w darllen yn ein mamiaith. Nofel ydi hi sy’n sôn am frigiad ffuglennol o bla arall, y marw du, mewn dinas yn Algeria yn y 1940au. Ond mae hi’n fwy o lawer na hanes clafychu a marw erchyll. Mae La Peste yn wledd o’r amryfal weddau ar Camus.

Roedd yn athronydd. Yn La Peste nid dim ond stori’r pla gawn ni, ond ystyriaethau ehangach gwahanu a hiraeth, marw a byw. Roedd hefyd yn fardd ac, yn yr erchylltra ciaidd, mae yma ddelweddau godidog, y bardd ynddo’n cael harddwch mewn hacrwch.

Anna Gruffydd
Mwy
Nicola Walker (Miss Moffat) ac Iwan Davies (Morgan Evans) yn Theatr y Lyttleton, Llundain
Theatr

George ac Emlyn Williams – dau hanner Cymro

Yn 1938 llwyfannwyd The Corn is Green yn y Duchess Theatre, Llundain, gyda neb llai na Sybil Thorndike yn y brif ran a’r awdur, Emlyn Williams, yn chwarae rhan Morgan Evans, y sgolor ifanc. Cafwyd rhediad o ddwy flynedd cyn trosglwyddo i Efrog Newydd. Yn fuan gwnaed ffilm o’r ddrama a chymerwyd y brif ran gan un o brif sêr Hollywood, Bette Davis. Yn ddiweddarach, yn 1979, daeth fersiwn deledu gyda Katherine Hepburn yn arwain y cast oedd yn cynnwys Ian Saynor yn rhan Morgan. Ac eleni mae’n denu tyrfaoedd i lwyfan y Lyttelton yn Llundain eto. Beth oedd a beth sydd yn gyfrifol am y fath lwyddiant?

Alun Ffred Jones
Mwy
Ymweliad y Frenhines a'r Trallwng, 1986
Darllen am ddim

Cymru a’r frenhiniaeth 1885-2022

Ar drothwy’r Jiwbilî dyma ddatgelu agweddau’r Cymry tuag at y frenhiniaeth.

Yr wyf wrthi ar hyn o bryd yn darllen campwaith R. Tudur Jones, Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890‑1914 – cyfrolau un a dau, cofiwch. A minnau bellach yng nghanol fy mhumdegau, rwy’n ddigon hen i fod wedi profi’r hyn oedd yn weddill o’r bywyd Anghydffurfiol traddodiadol yn y Sir Fôn wledig cyn iddo nychu’n llwyr. Serch hynny, mae’r Gymru a bortreadir gan Dr Tudur yn un gwbl, gwbl ddiarth i mi.

Nid yn unig y credoau a goleddid sy’n ddieithr – er ei bod yn anodd gorbwysleisio pa mor anodd ydi dirnad heb sôn am gydymdeimlo ag angerdd y dadleuon diwinyddol sy’n cael eu cloriannu mor ofalus rhwng y cloriau. Y gwir amdani yw bod mwy neu lai popeth yn ddieithr. Disgwyliadau bywyd. Golygon ar fywyd. Rhythmau bywyd, hyd yn oed. Heblaw am y ffaith fod yr enwau lleoedd sy’n britho’r tudalennau’n parhau’n gyfarwydd – a hefyd gyfoeth ysblennydd yr iaith a’r mynegiant – wrth ddarllen Ffydd ac Argyfwng Cenedl mae dyn yn teimlo ei fod yn darllen nid yn unig am wlad arall ond am wareiddiad cwbl wahanol yn ogystal.

Eto i gyd, roedd yna un darn yn nhrafodaeth y gyfrol gyntaf a oedd yn taro nodyn rhyfedd o gyfredol, sef ymateb y Gymru grefyddol i’r Frenhines Victoria.

Fel yr oedd John Davies, Bwlchllan, yn arfer ein hatgoffa, anaml iawn, iawn y gwelodd Victoria’n dda i ymweld â Chymru. Ond yn 1885 fe ddaeth i aros yn Llandderfel. Er mwyn nodi’r achlysur fe enwebwyd Dr David Roberts i gyflwyno anerchiad teyrngar i’w Mawrhydi ar ran gweinidogion Dinbych, Fflint a Meirion. Ond er bod Dr Roberts – Dewi Ogwen – yn delynegol-daer ei wrogaeth, fe ystyriai Michael D. Jones ei hymweliad fel ‘porthiant i’r gwaseiddiwch sydd mor gryf mewn cenhedloedd goresgynedig’.

Richard Wyn Jones