Oes yna unrhyw un yn dal i gredu bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn well na’r un yn Lloegr? Os oes, mae’n amlwg nad ydynt yn un o’r 30,000 o gleifion sy’n disgwyl dros ddwy flynedd am driniaeth ar ein rhestrau aros. Does bron neb yn aros cyhyd â hyn dros Glawdd Offa, yn ôl ystadegau diweddar.
Ond Cymry ydan ni, yntê? Yn ddiolchgar fod y cyfrifoldeb am y GIG wedi ei ddatganoli i Senedd Cymru a heb gael ei reoli gan yr hen Dorïaid cas yna yn Llundain. Pris gwerth ei dalu! Tybed?
Dychmygwch fod â phen-glin neu glun hynod boenus sy’n golygu na allwch gerdded ond ychydig lathenni heb gael eich llorio. Neu fod â philen ar y llygad sy’n eich rhwystro rhag darllen neu yrru car, gan wybod bod triniaeth yn fater eithaf syml. Ac yn y blaen, ac yn y blaen. At bwy mae pobl sy’n aros cyhyd am driniaeth yn mynd pan fo’r broblem yn achosi poen corfforol neu feddyliol gynyddol iddynt? At y meddyg teulu wrth gwrs. Mae’r meddyg teulu’n gwybod yn union beth yw’r ateb, sef cael barn a thriniaeth arbenigol. Ond dydi hynny ddim ar gael, i rai, am ddwy flynedd a mwy.
Un o’r prif resymau ei bod yn anodd cael apwyntiad efo’r meddyg teulu yw bod cleifion sy’n aros am driniaeth ysbyty yn gwaelu ac yn digalonni wrth fod ar restr aros cyhyd, ac felly’n ceisio cyngor y meddyg teulu, drosodd a throsodd ar adegau. Mae eraill o’r herwydd yn methu cael gweld y cyfryw feddyg ac yn gorlethu adrannau brys ein hysbytai gyda materion nad ydynt yn ddamweiniau nac angen sylw ar frys. Felly mae’r cylch dieflig yn parhau.