Vaughan Hughes
A oes angen rhagor o nawdd ar yr Eisteddfod Genedlaethol?
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eisiau rhagor o arian. Fy ngreddf ar hyd y blynyddoedd fu cytuno’n frwd â galwadau o’r fath. Wedi’r cyfan, meddyliwn, onid dyletswydd y Cynulliad, a chyn hynny, y Swyddfa Gymreig, oedd sicrhau parhad y Brifwyl? Dyna’i dyletswydd. A’i braint.