Ydi, mae’r rhifyn dwbl wedi cyrraedd, yn llawn dop o erthyglau gwych. Bethan Kilfoil yn sôn am Arlywydd newydd Iwerddon, Tweli Griffiths yn cofio’i gyfweliad rhyfeddol gyda Gadaffi, a’r Dyn Mynd a Dwad yn ail-fyw ei daith ddiweddar ar draws yr Unol Daleithiau. Yn nes at adref, mae Dafydd Hughes yn dweud hanes CPD Bangor wrth iddynt ffarwelio â’u cartref hanesyddol yn Ffordd Farrar. Daw diwedd blwyddyn â chyfle i edrych yn ôl – Simon Brooks, Alun Wyn Bevan, Kate Crockett, Lowri Haf Cooke a Pwyll ap Siôn sy’n cloriannu gwleidyddiaeth, chwaraeon a chelfyddydau Cymru 2011. Ar nodyn Nadoligaidd mae Bethan Jones Parry yn olrhain hanes ‘Dawel Nos’, a Nia Roberts yn trafod mins peis. Rhaid ichi ddarllen Barn i gael barn ein hadolygwyr am lyfrau newydd y Nadolig – pa well canllaw wrth wneud eich siopa? Ac un rheswm da arall i ddarllen y rhifyn o glawr i glawr – er mwyn gwneud ein Cwis Nadolig a chael cyfle i ennill gwobr ardderchog!
John Pierce Jones
Efo dau gydweithiwr, Aled Jones Davies a Gwyn Williams, dwi wedi bod yn ffilmio dwy raglen ddogfen i gwmni teledu Rondo. Yn y rhaglenni dilynir Sam Hughes o blwyf Clydau, Sir Benfro, un o sefydlwyr Tucson, Arizona. Efallai y cofiwch chi fy mod i wedi dweud ei hanes anhygoel ar y tudalennau hyn flwyddyn dda yn ôl.