Ydi, mae’r rhifyn dwbl wedi cyrraedd, ac mae’n llawn dop o erthyglau difyr. Rhagflas ohonynt yn unig a welir yma. Ymhlith rhai eraill, mae Daniel G. Williams yn sôn am ffilm sy’n ymwneud â chefndir Affricanaidd Barack Obama, ffilm a wnaed gan un sy’n hanner Affricanes a hanner Cymraes, a Bethan Kilfoil yn edrych ar y digwyddiad trasig sydd wedi dod â phwnc erthylu yn ôl i’r penawdau yn Iwerddon. Mae Roger Owen yn dweud pam y mae dramâu Gwenlyn Parry yn berthnasol o hyd a Derec Llwyd Morgan yn trafod ‘rygbi rigor mortis’. Gwaredu at ymgais Llywodraeth y Cynulliad i sensro Pobol y Cwm y mae ein colofnydd teledu, Sioned Williams – y ffaith i’r ymgais wallgof hon fethu sy’n esbonio’r mochyn daear joli ar ein clawr. Hyn oll ynghyd â stori newydd amserol gan Aled Islwyn, barn ein hadolygwyr am lyfrau a chryno-ddisgiau’r wyl, a llawer mwy. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Anna Brychan
Beth bynnag fo barn pobl am Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, does neb all amau ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i’w ben os creda y byddai tarfu ar y nyth hwnnw yn llesol i system addysg Cymru.
Ac felly y bu hi’r wythnos ddiwethaf. Cyhoeddodd adolygiad (arall) i edrych ar rôl awdurdodau addysg leol a’u gwaith yn cefnogi a gwella safonau addysgol. Ymhlith yr opsiynau y bydd yr adolygiad yn eu hystyried bydd tynnu’r cyfrifoldeb am addysg oddi ar awdurdodau lleol a chyfeirio’r gwaith o’r canol.