Ydi, mae'r rhifyn mawr wedi cyrraedd i'ch difyrru dros y gwyliau, yn orlawn o erthyglau amserol i brocio'r meddwl. Mae Angharad Tomos yn gwaredu at Gyngor Môn yn croesawu cynllun enfawr Land&Lakes, Derec Llwyd Morgan yn trafod stad enbyd cae chwarae Stadiwm y Mileniwm, Gwyn Thomas, mewn cyfweliad arbennig, yn herio ambell fyth am ei farddoniaeth, a'n colofnydd teledu newydd Sioned Wiliam yn dechrau'n awchus ar ei gwaith. Yn naturiol, mae sawl cyfrannwr yn gofyn cwestiynau Nadoligaidd amserol, e.e. a yw Gwr y Llety wedi cael bai ar gam? (Andrew Misell); a yw un o draddodiadau Nadolig yr Iseldiroedd a Fflandrys yn hiliol? (Dafydd ab Iago); a – cwestiwn tra phwysig – pa win sydd orau i olchi'r twrci i lawr? (Shôn Williams). Hyn heb sôn am 19 o gwestiynau i chi bendroni drostynt yn ein Cwis os am gyfle i ennill gwobr hardd ac unigryw, ac i goroni'r cwbl stori newydd gan Manon Steffan Ros. Prynwch, blaswch, atebwch... a byddwch lawen.
Beca Brown
O blith yr holl anrhegion Nadolig dwi wedi’u derbyn erioed, dim ond un sydd wedi gwneud imi grio dagrau o lawenydd, a nofel The Growing Pains of Adrian Mole oedd honno. Ro’n i wedi mwynhau The Secret Diary of Adrian Mole, Aged 13 ¾ i’r fath raddau nes ’mod i’n methu byw yn fy nghroen tan imi gael fy macha ar y gyfrol nesaf. Dyna ydi grym llyfr da, yntê. ‘We read to know that we are not alone,’ chwedl C.S. Lewis.
Roedd sawl apêl i’r llyfrau Mole o’m rhan i – yr hiwmor, y gonestrwydd, ac obsesiwn lwyr y dyddiadurwr gyda gwleidyddiaeth yr adain chwith. Ro’n i’n blentyn od, un a dreuliodd lawer o oriau anniddig yn hyfforddi fy stumog i fedru treulio mes, gwair a thatws amrwd, rhag ofn imi ganfod fy hun mewn rhyfel niwcliar heb fwyd call.