Euros Wyn
Mae rhaglen ddogfen y bydd S4C yn ei darlledu cyn y Nadolig yn olrhain hanes ffilm arloesol a wnaed gan Americanwr yng Ngwynedd dros hanner canrif yn ôl. Yr hyn sy’n rhyfedd yw nad oes cofnod ohoni hyd yn oed yn astudiaeth orchestol yr awdurdod pennaf ar hanes ffilm yng Nghymru. Cynhyrchydd y rhaglen sy’n ymhelaethu yma.
1961. Roedd yr Avengers ar y teledu, y bilsen atal cenhedlu ar gael am y tro cynta’ erioed, a phymtheg mil o brotestwyr gwrth-niwclear wedi eu harestio ar Sgwâr Trafalgar. O ia, ac mi enillodd Spurs y lîg am y tro ola’ yn eu hanes.
Yn Nolwyddelan (Dol’ddelan i’w thrigolion), roedd bywyd yn mynd yn ei flaen heb ryw lawer o ffys. Mae’n bosib bod un o’r Jaguar E-Type newydd ’na wedi chwyrnellu trwy’r pentra, ar ei ffordd i rwla arall, neu ar goll. Ond rhyw le digon di-stwr fu Dolwyddelan er 1283 pan gipiwyd y castell gan y Saeson.
Newidiodd hynny am gyfnod byr ym mis Rhagfyr 1961 pan gyrhaeddodd Americanwr o’r enw Marvin Lichtner y pentra – bron fel dyfodiad Clint Eastwood yn Pale Rider – ar wahân i’r ffaith nad gwn Smith & Wesson oedd gan Lichtner ond camera Hasselblad. Yn ddiweddarach yn y chwedegau enillodd y ffotograffydd fri am gyfres o luniau o’r Beatles a dynnwyd ganddo yn Hyde Park ar gyfer Time Magazine. (Yn y lluniau mae’r pedwar yn eistedd ar fainc gyda dyn busnes mewn het bowler.) Tynnodd Lichtner hefyd luniau eiconaidd o JFK, Cassius Clay, Racquel Welch a Malcolm X.
Ond yr hyn a wnaeth Lichtner yn Nolwyddelan, reit ar ddechrau ei yrfa, sy’n berthnasol i ni, ac sy’n allweddol i hanes ffilm yng Nghymru. Dod yna wnaeth Lichtner i wneud ffilm.
Does dim sôn amdani yng nghampwaith Dave Berry, Wales and the Cinema – sy’n beth od, achos mae pob dim arall yn y gyfrol. Holwch unrhyw un sy’n ymddiddori ac yn ymhél â hanes ffilm yng Nghymru am ffilm Gymreig Lichtner, ac mi edrychan nhw’n syn arnoch chi – bron fel petai cyrn wedi sbrowtio o’ch pen. Holwch bentrefwyr dan ddeugain oed Dolwyddelan hyd yn oed, a’r un fydd yr ymateb. Mae fel petasai’r hanes wedi mynd yn gyfrinach – yn omertà Maffiosaidd – ymysg to hyn y pentra. A nhw ymddangosodd ynddi wedi’r cyfan.
***********************************
Naw mlynedd cyn i Marvin Lichtner gyrraedd Dolwyddelan sefydlwyd cwmni o’r enw Caedmon Audio yn Efrog Newydd gan Barbara Cohen a Marianne Roney, dwy ferch ifanc oedd wedi taro ar syniad go dda. Eu bwriad oedd mynd ati i recordio beirdd a llenorion amlycaf y dydd yn darllen eu gwaith a gwerthu recordiau o’r darlleniadau. Cydnabyddir Caedmon fel catalydd y diwydiant llyfrau siarad enfawr sydd bellach â’i werth, yn yr Unol Daleithiau’n unig, oddeutu $2 biliwn y flwyddyn.
Targed Caedmon ar gyfer eu record gynta’ oedd Dylan Thomas. (Ymddiheuriadau i’r sawl ohonoch sy’n dioddef o Dylanoffobia, salwch sydd wedi lledu’n raddol trwy’r wlad ers bron i flwyddyn bellach yn sgil canmlwyddiant ei eni.) Roedd Dylan, wrth gwrs, yn enw mawr yn Efrog Newydd ar y pryd, a phan gyfarfu’r bardd â’r ddwy bartneres ym mwyty’r Little Shrimp dros ginio yn Ionawr 1952, cytunodd i gael ei recordio.
Digwyddodd hynny yn Neuadd Steinway ar 22 Chwefror. Cyn terfyn y sesiwn recordio sylweddolwyd nad oedd digon o gerddi i lenwi dwy ochr y record arfaethedig. Gofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw ddeunydd arall. ‘Well, I did this story that was published in Harper’s Bazaar that was a kind of Christmas story,’ atebodd. I bob pwrpas felly, ar hap a damwain yr aeth y stori, A Child’s Christmas in Wales, i gymaint o gartrefi ar hyd a lled America...