Rhagfyr 2016 i Ionawr 2017 / Rhifyn 647-648

Dei Fôn sy’n dweud

Dirgelwch y Bae – galw am help DCI Mathias

Dwi’n hollol gefnogol i’r Cynulliad. Ond credaf, hefyd, fod yna chwarel dda iawn y gallai cyfres Y Gwyll ei chloddio yng ngweithrediadau’r Senedd – onid oes sawl dirgelwch yno? Wele sgerbwd ar gyfer cyfres arall o ymchwiliadau tywyll DCI Mathias.

Pennod 1: Dirgelwch y Siambar Sorri

Pam mae’r Siambr mor ofnadwy o farwaidd, gyda phawb mor gythreulig o gwrtais? Lle mae’r emosiwn a’r tân? Hefyd – ar beth maen nhw’n edrych? Ydi cyfrifiadur o’ch blaen yn gwneud ichi ymddangos yn bwysicach? Ofar tw iw, Mathias?

Pennod 2: Dirgelwch y Polisi

Pwy sy’n gyfrifol am bolisïau Llywodraeth Cymru? Yn rhy aml, ymddengys fod polisi yn gyfan gwbl ddibynnol ar farn y Gweinidog sy’n ei weithredu. Cymerwch faes pwysig llywodraeth leol. Yn ystod teyrnasiad y tri gweinidog diwethaf cyflwynwyd polisïau gwahanol a hynny, hyd y gwela i, heb damaid o drafodaeth. Sôn am lunio polisi cenedlaethol ar gefn paced sigaréts…

Dafydd Fôn Williams
Mwy

Jonathan Pie sy’n dweud!

Yr hyn oedd yn mynd ar fy nerfau i drannoeth buddugoliaeth Trump oedd yr holl wylofain a darogan gwae ar Facebook: Methu coelio’r peth... Wedi colli ffydd mewn dynoliaeth... Mae’r byd ar ben...
   Wrth gwrs ei fod yn frawychus fod y fath ddyn wedi’i ethol yn arlywydd, ond fy epiffani drannoeth oedd y sylweddoliad nad ydi tantro am y peth ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynd i wneud iot o wahaniaeth. A’r un bore y’m cyflwynwyd i Jonathan Pie.
   Gohebydd gwleidyddol spwff ydi Pie – alter ego’r actor a’r dychanwr Tom Walker – sy’n taro’r hoelen ar ei phen yn ei arddull frygowthlyd ond hynod huawdl a threiddgar. Go brin ei fod at ddant pawb. Ond mae unrhyw un sy’n dweud ‘It’s time to stop thinking that re-posting an article on your Facebook feed is political engagement...’ ac yn mentro dweud y caswir mewn modd mor ddi-flewyn-ar-dafod yn llygad yn ei le yn fy ngolwg i.

Elin Llwyd Morgan
Mwy
Celf

O Beirut i Eryri

Potel o gwrw, bocs o dabledi a chlustog fawr feddal i orwedd arni. Dyma rai o gynhwysion Artes Mundi eleni, yn cael eu cynnig fel ‘cysur’ i gynulleidfaoedd yr arddangosfa celf gyfoes yn dilyn daeargrynfeydd gwleidyddol 2016. A hithau’n cael ei chynnal yn yr Amgueddfa Genedlaethol a Chapter, Caerdydd, amserwyd ei hagoriad swyddogol i’r dim, yn dilyn Brexit a thoc cyn Trumpageddon. Mae’n heriol ac yn arbrofol, yn rhoi pin mewn sawl swigen, ac ar yr un pryd yn cynnig ‘man saff’ i fyfyrio ar ein byd.
   Ceir yng ngwaith y chwe artist amrywiaeth o themâu, o lygredd gwleidyddol a sgileffeithiau rhyfel i ffoaduriaid, milltiroedd bwyd a dinasoedd y dyfodol. Yr hyn sydd efallai’n fwyaf cyffrous i ddarllenwyr Barn yw bod artist o Gymru wedi’i ddethol am y tro cyntaf ers sefydlu Artes Mundi. A rhaid dweud, gosodwaith trasicomig Bedwyr Williams, Tyrau Mawr, yw’r peth gorau yn y sioe…

Lowri Haf Cooke
Mwy

Brexit a phentref gwleidyddol San Steffan

Mae’r hanesion a adroddir am swyddfa Jeremy Corbyn yn wirioneddol syfrdanol. Mae’n amlwg fod rhai o gynghorwyr agosaf yr arweinydd wedi gwneud popeth yn eu gallu i danseilio ymgyrch swyddogol Llafur o blaid Aros yn yr Undeb Ewropeaidd...
   Mae deall parodrwydd carfan fawr iawn o Geidwadwyr i danseilio eu plaid eu hunain yn enw gwrthwynebu dylanwad difaol (honedig) yr Undeb Ewropeaidd yn hollbwysig wrth i lywodraeth y Deyrnas Gyfunol afael yn y dasg o wireddu canlyniad y refferendwm...
   Daw hyn â ni at unplygrwydd a phenderfyniad y rheini oedd am i’r Deyrnas Gyfunol roi’r gorau i’w haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Yn syml, yr oedd gwrthwynebwyr Ewrop yn fwy penderfynol: yn fodlon gweithio’n galetach: ... o ran ymdrech, os nad dim byd arall, yr oedd Gadael yn haeddu ennill y refferendwm ...
   Yng Nghymru tueddu i gymryd yn ganiataol fod enillion yr hanner canrif diwethaf yn ddiogel. Ond ni ddylem wneud hynny...

Richard Wyn Jones
Mwy

Blwyddyn i’w chofio... a’i hanghofio: Chwaraeon

Gwireddu breuddwyd

Mewn sawl ffordd, mae 2016 wedi bod yn flwyddyn erchyll i Gymru ond yn y maes chwaraeon bydd eleni, ynghyd â 1905, 1927 a 1958, yn cael ei hystyried yn flwyddyn fythgofiadwy yn hanes chwaraeon ein gwlad. Cafodd athletwyr Cymru eu gemau Olympaidd gorau erioed, yn ennill deg medal yn Rio. Roedd Jade Jones o’r Fflint yn Bencampwraig taekwondo am yr eildro, enillodd Hannah Mills fedal aur am hwylio, a chipiodd Cymru ddwy fedal aur yn y velodrome, diolch i Elinor Barker ac Owain Doull. Hefyd yn y byd seiclo, enillodd Geraint Thomas ras ‘Paris-Nice’. Does ’na ddim lot i’w ddweud am y rygbi. Ond,wrth gwrs, mae ’na un gamp enfawr sydd wedi dyrchafu chwaraeon Cymru Fach i uchelfannau newydd, gan godi ymwybyddiaeth ac ennyn clod o bob cornel o’r byd. Ym mis Mehefin aeth ein tîm pêl-droed i Ffrainc i gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ewrop am y tro cyntaf erioed...

Phil Stead
Mwy
Materion y mis

Pam nad yw hanes Cymru’n cael ei ddysgu’n iawn yn ein hysgolion?

Wrth siarad gydag athrawon a holi eu hagwedd tuag at hanes Cymru, caf nifer o resymau dros beidio â gwneud hanes Cymru yn ganolog i’r gwaith. Diffyg adnoddau yw’r ateb cyntaf a gaf fel rheol, a phan dynnaf sylw athrawon at yr ystod o adnoddau mewn amrywiaeth o gyfryngau a gyhoeddwyd dros yr ugain mlynedd diwethaf mae’n syndod cyn lleied o athrawon sy’n gwybod amdanynt o gwbl...
   Mae rhai athrawon wedyn yn honni bod hanes Cymru yn anniddorol...
   Dwêd eraill fod hanes Cymru yn blwyfol ac yn gul...
   Un o haneswyr disgleiriaf Cymru oedd y diweddar Athro Syr Rees Davies a dynnodd ein sylw gyntaf at y ffaith mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr. Tybed ai gwraidd y problemau a ganfyddaf ym myd dysgu hanes Cymru yw dylanwad y ffaith hanesyddol honno?

Elin Jones
Mwy