Mae yna lawer iawn o bethau cymhleth a rhyfedd am yr iaith Gymraeg, ac am y rhai sy’n ei siarad hi. Treigladau. Plismyn Iaith. Plant yn dweud ‘meetia fi yn y ffreutur’. Rhieni Cymraeg yn siarad Saesneg efo’u plant. Eithriadau gramadegol. Y gair ‘argaeledd’ (emoji chwydu). Ein balchder a’n cywilydd, ar yr un pryd, o fod yn Gymry. Black Nun Glanllyn.
Ond mae yna un neu ddau o bethau syml a hawdd iawn amdani hefyd – pethau sy’n dod yn rhwydd i’r rhai sy’n ei siarad hi – sef darogan gwae ac anobeithio am ei dyfodol. Rydan ni i gyd yn giamstars ar hynny, dydan – am y gorau i beintio’r darlun tywylla bosib o sefyllfa’r heniaith; ac mae gynnon ni berffaith gyfiawnhad dros fod felly, wrth gwrs.
Dyna pam mae’r ysbaid lleiaf o wres gobaith yn gallu llonni’r enaid yng nghanol yr hirlwm llymaf. Dros y misoedd diwethaf rydw i wedi canfod fy hun wedi ’nhaflu i ganol byd lliwgar, brwdfrydig a ’chydig yn boncyrs dysgwyr y Gymraeg.