Ym mis Mai 2010 cafodd Arianwen Parry ei hanrhydeddu yng Ngŵyl y Fedwen Lyfrau am gyfraniad oes i’r diwydiant llyfrau Cymraeg. Cefais innau’r fraint o gyflwyno’r tlws iddi ar ran Cwlwm y Cyhoeddwyr ac er bod ei meddwl yn dechrau pylu, nid anghofiaf byth ei gwên y diwrnod hwnnw. Roedd ar ben ei digon.
Roedd agor siop llyfrau Cymraeg yn Nhan-y-graig, Llanrwst, ar y cyd â’i gŵr Dafydd Parri, yn gryn fenter ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Ond nid dau berson cyffredin oedd Arianwen a Dafydd. Roedd y ddau wedi cyfarfod yn Sir y Fflint, y ddau’n athrawon ifanc ac ar dân dros y Gymraeg. Yn eu horiau hamdden rhoesant gynnig ar werthu llyfrau o gefn fan ac yn y farchnad yn Llanrwst. Yna ar ôl priodi, dyma agor siop yn 1955, gydag Arianwen yn arwain a Dafydd yn gefn iddi ac yntau’n parhau i ddysgu ym Mhentrefoelas ac wedyn yn Ysgol Fodern Llanrwst a drodd yn Ysgol Dyffryn Conwy.