Yr oedd strydoedd Llanelli bron yn gaeth gan eira ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 1947. Caewyd holl ysgolion y dref, heblaw un. Y bore hwnnw agorwyd drysau Ysgol Gymraeg Llanelli am y tro cyntaf – yr ysgol Gymraeg gyntaf i’w hagor yng Nghymru dan nawdd awdurdod lleol. Safai’r brifathrawes ar y trothwy i groesawu 35 o ddisgyblion.
Miss Olwen Williams oedd y brifathrawes honno, yr ‘anfarwol Olwen’ yng ngeiriau D. Ben Rees. Testun boddhad yw llunio pwt o deyrnged i un o arwresau’r byd addysg yng Nghymru, gwraig eithriadol ei gallu a’i hegni a frwydrodd i sicrhau darpariaeth arloesol i blant Llanelli ac, yn sgil ei llwyddiant, i blant ledled Cymru. Nid oes na phlac na cherflun cyhoeddus yn nhref Llanelli i nodi ei gorchestion. Hwyrach mai’r un esgeulustra sy’n gyfrifol am y bwlch amlwg yn y Bywgraffiadur Cymreig.