Ar daith o amgylch bwytai Michelin Cymreig yn ddiweddar ar gyfer Croeso Cymru sylwais fod y stafelloedd bwyta yn orlawn. Ac roedd y rhestrau aros dros y misoedd nesaf yn hirfaith yn nifer o’r bwytai. Nid yw pawb wrth gwrs yn gwirioni ’run fath – gwell gan rai wario eu harian ar ddillad, gwyliau tramor, ‘sesh’ bob penwythnos, neu – yn achos dilynwyr chwaraeon – ar docyn tymor. Mae chwaeth a diddordeb pawb yn amrywio’n fawr. Ond mae’n rhaid i bawb fwyta! Ac wedi treulio cymaint o’r pandemig yn eu ceginau eu hunain, mae mynd allan i wledda yn apelio at lawer.
Felly er cymaint yr hoffwn draethu am enwau newydd eleni (o, am gael ymweld â Jackdaw Conwy!), derbyniais her y golygyddion i argymell bwytai ‘fforddiadwy’. I ddechrau, buom yn ceisio diffinio beth yn union yw pris ‘synhwyrol’. Awgrymwyd i gychwyn pryd tri chwrs am £25. Rhaid cyfadde imi gael mymryn o fraw!