Rhagfyr 2023 i Ionawr 2024 / Rhifyn 731-732

Addurniadau Nadoligaidd
Colofnydd

Rhialtwch y ’Dolig – be am beidio?

Dydi hi ddim yn gyfrinach nad ydi pawb yn licio ’Dolig. Mae hyd yn oed y bobol sydd yn licio fo yn ffendio elfennau o’r ŵyl mor annioddefol nes gwneud iddyn nhw fod isio sticio pinnau yn eu llygaid. Weithiau, mae’r tinsel fel ’tasa fo’n tagu rhywun a’r jingl yn gwneud i chi fod isio estyn am y jin.

Rydan ni’n gwybod bod yr obsesiwn Nadoligaidd efo perffeithrwydd teuluol yn hynod o heriol i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid neu sydd wedi methu â chael plant ar ôl blynyddoedd o drio. Mae’r pwysau i wario yn stwmp ar stumog y niferoedd cynyddol o bobol sydd heb arian dros ben ar ôl talu am hanfodion, ac mae unigrwydd yn gysgod dros y cyfan i’r rhai sydd â’u teuluoedd yn byw’n bell i ffwrdd.

Beca Brown
Mwy
Arwydd ffordd yn nodi 'Ysgol' a 'School'
Materion y mis

Ad-drefnu gwyliau ysgol – ond beth arall?

Maen nhw’n ddyddiau blin ar fyd addysg ac effaith y pandemig yn parhau i adael ei ôl. Mae yna adroddiadau am ymddygiad heriol, absenoldebau cyson, cwymp mewn safonau darllen a chynnydd yn y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Ar ben hyn oll, mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru gyflwyno newid i’r flwyddyn ysgol gan leihau gwyliau’r haf a symud wythnos ohonynt i’r hydref.

Ymateb yr undebau yw dweud bod pethau pwysicach i fynd i’r afael â nhw gan gynnwys yr argyfwng cyllido sy’n prysur gyniwair rywle rhwng Llundain a Chaerdydd – y math o argyfwng sy’n haeddu enw arno yn yr un modd ag yr enwir stormydd.

Mae eraill, gan gynnwys rhieni ac addysgwyr, yn llawer mwy croesawus i’r bwriad.

Aled Evans
Mwy
Llun o Cefin Roberts a chlawr ei hunangofiant
Cyfweliad Barn

Dweud ei ddweud – holi Cefin Roberts

‘’Tasa rhywun yn gofyn i mi, ‘Be ydach chi?’, mi faswn i’n deud actor. Gynta’. Wedyn athro drama, wedyn ella ’swn i’n deud cyfarwyddwr, wedyn arweinydd côr, a wedyn ’swn i’n deud ’mod i’n sgwennu… yn dipyn bach o awdur. ‘’Sa barddoniaeth yn weddol isel – dwi’m yn galw fy hun yn fardd, ond fedra’i gael go... dwi ’di sgwennu lot o ganeuon. Ia, ’swn i’n rhoi “lyricist” uwchben y barddoni, ond cerddor ’de, dwi’n ddeud bo’ fi ddim – paid dêrio deud ’mod i’n gerddor!’

Felly actor ydi Cefin Roberts, yn gyntaf, ond actor a roddodd y gorau i actio yn 1990 i sefydlu Ysgol Glanaethwy. Yn ei hunangofiant newydd swmpus Yn Blwmp ac yn Blaen ceir hanes ei fywyd llawn o’i ddyddiau cynnar ym mhentref Llanllyfni, i lwyfannau a steddfodau a stiwdios drwy Gymru gyfan.

Nici Beech
Mwy
Ffrâm o fideo gan Carolina Caycedo, Fuel to Fire, 2023
Celf

Y degfed Artes Mundi

Cynhelir arddangosfa Artes Mundi bob yn eilflwydd ers ugain mlynedd bellach a drwyddi dyfernir gwobr ryngwladol sylweddol. Y tro hwn penderfynwyd cynnal yr arddangosfeydd mewn tair oriel ar draws y wlad yn ogystal â’r ddau leoliad arferol yng Nghaerdydd gan wireddu’r hyn a fu’n nod o’r cychwyn cyntaf yn 2002, yn ôl y cyfarwyddwr, Nigel Prince. ‘Artes Mundi yw’r prif sefydliad celfyddydau gweledol rhyngwladol ei ffocws yng Nghymru’ yw’r broliant ar wefan y sefydliad erbyn hyn. Mae datganoli Artes Mundi eleni o’r brifddinas i’w groesawu ac ynghyd ag ennill cynulleidfa eangach mae’r lleoliadau gwahanol yn ychwanegu deinameg newydd at weithgareddau’r wobr. Mae hefyd yn creu digwyddiad sydd â naws cenedlaethol iddo.

Robyn Tomos
Mwy

Cip ar weddill rhifyn Rhagfyr/Ionawr

Yr ymchwiliad Covid – Catrin Elis Williams

Bethlehem - breuddwyd a realitiAndrew Misell

Bywyd ar ben pellaf ‘lôn Llundain’Dafydd Fôn Williams

Edrych yn ôl ar 2023Ned Thomas, Eurfyl ap Gwilym, Alun Wyn Bevan, Meg Elis a Hywel Griffiths

Argymhellion gwin NadoligShôn Williams

Lluniau’r cerflunydd David NashRhiannon Parry

A yw ein ‘corff’ celfyddydol yn glaf?Dylan Huw

Barn ein hadolygwyr am gynnyrch y gweisg a’r labeli

Cofio’r awdur llyfrau plant Brenda Wyn JonesMenna Lloyd Williams

Sut mae cathod yn canu grwndi?Deri Tomos

Mwy
Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
Cyfweliad Barn

Hybu defnydd yw’r nod – holi’r Comisiynydd

Roedd sawl her yn wynebu Efa Gruffudd Jones pan gychwynnodd ar ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg ddechrau’r flwyddyn.

I ddechrau, roedd ganddi fwlch mawr i’w lenwi ar ôl ei rhagflaenydd poblogaidd ac uchel ei barch, y diweddar Aled Roberts. Roedd ei farwolaeth flwyddyn ynghynt, wedi llai na thair blynedd yn y swydd, pan oedd ganddo gymaint mwy i’w gyfrannu, yn golled fawr i Gymru.

Roedd hi hefyd yn cychwyn ar ei swydd lai na mis ar ôl cyhoeddi canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg. Ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru’n arddel uchelgais o gynyddu’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg i filiwn erbyn 2050, gostwng a wnaeth y cyfanswm am yr ail gyfrifiad yn olynol. Yn ogystal â chadarnhau dirywiad pellach yn llawer o gadarnleoedd y Gymraeg, dangosodd hefyd leihad yn y niferoedd a’r canrannau o blant sy’n gallu siarad Cymraeg yn y de-ddwyrain.

Huw Prys Jones
Mwy
Adeiladau San Steffan, baner Jac yr Undeb a logo'r Blaid Geidwadol
Darllen am ddim

Hynt y Ceidwadwyr Cymreig ers datganoli – a beth nesaf?

Ar ôl cyfnodau o bendilio rhwng cefnogi’r gyfundrefn ddatganoledig a chofleidio’r Undeb yn dynn, mae’r Torïaid erbyn hyn ar eu mwyaf Prydeinig ac yn awchu am danseilio ymdrechion llywodraethau Caerdydd a Chaeredin i wneud pethau’n wahanol i San Steffan. Undod y Deyrnas Gyfunol sydd bwysicaf o ddigon yn eu golwg.

Pan oeddwn i’n gyw o ysgolhaig ym mlynyddoedd cyntaf y 1990au ac yn dechrau mynychu cynadleddau academaidd mawrion fy maes, un o’r prif bleserau oedd cael ymweld ag arddangosfeydd y cyhoeddwyr. Dyma gyfle amheuthun i bori drwy’r cannoedd o gyfrolau newydd yn ymdrin â gwahanol agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol, sef fy niléit mawr ar y pryd. O na fyddwn innau, rywdro, yn fy nghael fy hun ymysg yr awduron hyn!

Ond yr oedd bryd hynny, ysywaeth, un gornel fechan ar bron bob stondin a oedd yn cynnig rhybudd yn hytrach nag ysbrydoliaeth. Cornel lle cesglid ynghyd lyfrau a oedd yn aml yn gynnyrch blynyddoedd meithion o waith ymchwil, ond a oedd – waeth beth eu safon – yn annhebygol iawn o gael eu darllen gan unrhyw un. Llyfrau yr oedd hyd yn oed eu hawduron wedi anobeithio amdanynt, a hynny’n aml cyn eu cwblhau heb sôn ar ôl eu cyhoeddi.

Rhain oedd y llyfrau oedd yn trafod y cyfundrefnau gwleidyddol yn nwyrain Ewrop a’r hen Undeb Sofietaidd a sgubwyd o’r neilltu gan chwyldroadau 1989 i 1991. Yn amlach na pheidio, roedd eu cloriau mor ddigalon o lwm ac anapelgar nes sawru o’r agwedd ‘fe wnaiff hynna’r tro’ oedd yn eu hamgylchynu. Roedd y byd wedi troi ar ei echel a phawb oedd yn gysylltiedig â’r cyfrolau’n sylweddoli’n burion nad oedd unrhyw ddiddordeb bellach yn yr hyn a fu gyda phopeth yn newid mor gyflym. Yn sgil y fath chwyldroad, unig nod y cyhoeddi oedd cyflawni ymrwymiadau cytundebol.

Richard Wyn Jones
Adeiladau wedi eu dinistrio ar Lain Gaza
Tramor

Rhyfel Hamas ac Israel – ffwndamentaliaeth ar bob llaw

Ar ôl mis o dawelwch, derbyniais neges ddigidol gan gydnabod o ddinas Gaza. Fflachiodd y geiriau ‘Helo, dwi’n dal yn ddiogel, a ’nheulu hefyd’ ar y sgrîn. Ond roedd y cadarnhad ynghylch eu diogelwch yn rhyfeddod o ystyried y manylion torcalonnus a ddaeth hefyd drwy’r ffôn. Disgrifiodd ffoi i dde Llain Gaza, y bomio diddiwedd a’r marwolaethau. ‘Dwi’n gwylio cannoedd o bobl yn marw,’ meddai. Ychwanegodd fod ‘cannoedd ym mhobman yn yr ysbytai, y tu allan, yn yr iardiau tu cefn… ym mhob man.’

Iolo ap Dafydd
Mwy
Sheila Phippen Parry (née Davies)
Arwyr Angof

Sheila Phippen Parry: un a heriai’r drefn

Yn sgil ei safiad diwyro dros hawliau merched yn y Coleg Normal, Bangor, yn nechrau’r 1950au, fe ddylai enw Sheila Phippen Parry (née Davies) fod yn llawer mwy cyfarwydd nag y mae. Er i’w hachos ar y pryd gael sylw eang yn Nhŷ’r Cyffredin ac mewn papurau newydd ledled Prydain, mae hi’n parhau’n un o’r enwau coll yn hanes twf y mudiad ffeminyddol yng Nghymru.

Gareth Ffowc Roberts
Mwy
Javier Milei, Arlywydd newydd yr Ariannin
Materion y mis

Arlywydd newydd yr Ariannin – mwya’u trwst…

Pa mor hawdd yw beirniadu diffyg doethineb etholwyr o bell? Fyddem ni yng ngwledydd Prydain, er enghraifft, byth yn pleidleisio dros wleidyddion uchel eu cloch sy’n gweiddi’n uwch na’r lleill… ar wahân i ddilyn lladmeryddion Brexit ’falle… a dewis Boris a’i griw i’n llywodraethu… ’Ta waeth – mae pleidleiswyr yr Ariannin (gan gynnwys trigolion ein Gwladfa annwyl) wedi dewis y bonwr Javier Milei yn Arlywydd y Weriniaeth. A sut fath o arweinydd fydd hwn meddech chi?

Thatcher, Trump, Bolsonaro ac Al Capone – dyna rai yn unig o’r bobl sydd wedi ennyn ei edmygedd. Dan ei reolaeth, bydd gynnau’n haws eu prynu, erthylu yn anos ei drefnu, a bydd bywyd yn annifyr i wyddonwyr a ffeministiaid. A gyda llaw, y Pab Francis (Archentwr) yw ‘cynrychiolydd daearol y diafol’ yn ôl yr Arlywydd newydd.

Russell Isaac
Mwy
Adar y To yn eistedd ar ffens mewn eira
Stori

Bwydo’r Adar

Roeddwn i’n ei weld yn rhywbeth eithriadol o annwyl y tro cyntaf hwnnw. Dw i’n cofio deud wrth ffrind ei fod o ‘mor ciwt’. Ein Nadolig cyntaf fel cwpl a ninnau ond yn byw efo’n gilydd ers deufis.

‘Cofia roi dy hosan i grogi iddo fo gael ei llenwi hi.’

A finna’n chwerthin, a Steve yn mynnu ’mod i’n dewis hosan reit fawr a’i gosod hi wrth droed y gwely. Ac yn y bore mi oedd hi’n llawn. Yr union siocled roeddwn i’n ei hoffi, yr union fasgara roeddwn i wedi bod isio’i brynu ond yn peidio oherwydd ei fod o’n ddrud a bod gen i diwb o beth rhad ar ei ganol a bod hwnnw’n ’neud y tro yn iawn. Roedd rheini’n plesio mwy na’r gadwen fach aur, er bod honno’n eithriadol o dlws, ac wedi costio lot mae’n siŵr. Mae pethau sydd yn profi bod rhywun yn gwrando arnoch chi, yn eich nabod chi, yn anrhegion pwysig iawn. Sgarff sidan efo lluniau Adar y To arno fo.

Sian Northey
Mwy
Portmeirion dan eira
Bwyd

Cinio Nadolig – bwyta allan

Profiad difyr bob tro yw derbyn gwahoddiad gan olygyddion BARN i gyfrannu erthygl i rifyn dwbl y ’Dolig. Ond eleni rhaid cyfadde’ i’r e-bost esgor ar gybolfa o deimladau cymysg iawn. Y cais dan sylw – ‘Erthygl yn trafod y ffenomen o fynd allan i fwyty cinio Nadolig, h.y. ar ddydd Nadolig ei hun.’ Yn y lle cyntaf, bu’n rhaid ystyried fy anwybodaeth, gan i mi dreulio pob Nadolig hyd yma adre yn coginio a gwledda. Yn wir, mae’r holl chwysu chwartiau dros y paratoadau yn rhan anhepgor o hwyl yr ŵyl i mi. Ond nid pawb wrth gwrs sy’n gwirioni’r un fath, gyda nifer yn ffafrio bwyta allan am amryw resymau. Felly allan o chwilfrydedd derbyniais yr her, a chanfod fod yma daten boeth go iawn o bwnc.

Lowri Haf Cooke
Mwy
Gwaith celf Orielodl
Darllen am ddim

Cwis i’n darllenwyr

Gwobr: Gwaith celf ysbrydoledig o Orielodl
Artist o Bontarddulais yw Rhys Padarn Jones a bydd enillydd y Cwis yn derbyn taleb werth £50 i’w gwario ar nwyddau o’u dewis. Ewch i’w wefan orielodl.com i weld y dewis gwych o bethau sydd ar gael, yn brintiau, posteri, cardiau, jig-sôs a llawer mwy.

Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.

Anfonwch eich atebion at
Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin SA31 3EQ
gyda’ch enw, cyfeiriad post ac e-bost neu at swyddfa@barn.cymru erbyn 5 Chwefror 2024.

Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Mawrth.

Tanau ar strydoedd dinas Dulyn
Iwerddon

Terfysg hiliol Dulyn yn codi braw

Plant bach yn cael eu trywanu gan ddyn â chyllell, a therfysg yng nghanol Dulyn, gyda bws, tram a cheir ar dân ar Stryd O’Connell, prif stryd y ddinas. Braw, cywilydd, dicter: ers y digwyddiadau ofnadwy ar ddydd Iau, 23 Tachwedd, mae pobl yn Iwerddon wedi bod yn gofyn cwestiynau difrifol iddyn nhw eu hunain ynglŷn â beth sy’n digwydd i’w cymdeithas.

Hyd yn hyn, does neb yn gwybod beth oedd cymhelliad y dyn a ymosododd ar y plant bach tu allan i ysgol ar sgwâr Parnell, ar ben uchaf Stryd O’Connell. Yn sicr, does yna ddim byd tebyg erioed wedi digwydd yma o’r blaen. Ac os oedd y digwyddiad yma yn sioc erchyll, roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn hefyd yn anodd ei ddeall.

Bethan Kilfoil
Mwy