Dyfrig Jones
Druan o unrhyw un sydd a diddordeb ysol yng ngwleidyddiaeth yr Alban. Rhwng buddugoliaeth Obama a penderfyniad Banc Lloegr i fynd a'r fwyell at eu cyfradd llog, mae'n rhaid crafu i ddod o hyd i unrhyw sôn am is-etholiad Glenrothes ar y cyfryngau. Ac am unwaith, nid gwendid Saesnig-Brydeinig sydd yn gyfrifol am hyn. Hyd yn oed yn yr Alban, ychydig iawn o sylw mae'r frwydr wedi ei chael – mae'n rhaid troi at dudalen 6 yn yr Herald heddiw os ydych chi am ddarllen y rhagolygon diweddaraf. Ond na phoener, ddarllenwr ffyddlon, mae Barn yma i sicrhau nad ydych chi'n cael eich hamddifadu o'r newyddion diweddaraf. Dwi wedi teithio yr holl ffordd i'r Alban, er mwyn gallu adrodd ar yr hyn sydd yn digwydd yma.