Byrhewch nosweithiau hir y gaeaf trwy ddarllen Barn. Yn y rhifyn diweddaraf mae Andrew Misell yn gofyn i ble mae’r trên datganoli yn mynd, a Dafydd Glyn Jones yn gofyn beth a wnâi Twm o’r Nant o Gymru heddiw. Will Patterson sy’n trafod adeiladau hyllaf yr Alban, a Bethan Kilfoil yn arswydo rhag y toriadau arfaethedig yn Iwerddon. Mae Hefin Wyn yn condemnio cyngerdd croeso ystrydebol Cwpan Ryder gan gynnig lein-yp fyddai wedi bod yn llawer gwell. Ac os nad yw hynny’n ddigon o wledd rhowch gynnig ar rysait carbonara Annes Gruffydd.
Beca Brown
Nid yn aml mae rhywun yn cael ei gymharu efo Alex Ferguson – yn enwedig rhywun fel fi. Yr unig debygrwydd sy ’na, decini, ydi gallu’r ddau ohonom i ddefnyddio sychwr gwallt yn bwrpasol a chydag arddeliad. Hynny, a thuedd y ddau ohonom i regi a mynd yn goch pan fydd pethau’n mynd o chwith – sef bob penwythnos y dyddia yma, i Alex o leia’.