…ac mor llawn ag arfer o’r ysgrifennu gorau ar faterion cyfoes a’r celfyddydau. Mae Alwyn Roberts yn trafod ‘Problemau Prifysgol’ a Will Patterson yn beirniadu ‘ffyliaid cibddall’ Llafur yr Alban. Mae Gwyn Griffiths yn flin fod y Celtiaid yn cael cam gan raglenni hanes a Sioned Williams yn pryderu am effaith toriadau BBC Cymru ar ddarlledu Cymraeg. Ceir argraffiadau Luned Aaron o wyl gartwnau ryngwladol yn Ffrainc, golwg ar waith yr artist Martin Wenham, barn Megan Eluned Jones am y ‘broblem adolygu’, cip ar hoff stafell yr actores Delyth Wyn… a llawer mwy.
Bethan Kilfoil
Am ganrif a hanner, o ddyddiau’r Newyn Mawr hyd at ddyfodiad y Teigr Celtaidd, bu’n rhaid i’r Gwyddelod adael eu gwlad wrth eu miloedd. Er bod yr allfudo wedi ailddechrau nid yw’r gadael mor chwerw – na therfynol, gobeithio – ag y bu.