Ym mis Tachwedd 1962 y cyhoeddwyd Barn am y tro cyntaf a rhwng cloriau’r rhifyn pen-blwydd hwn cewch gip ar rai o’r pethau pwysig a dadleuol a ddywedwyd ac a ddarluniwyd yn y cylchgrawn ers hynny. Dyma draddodiad sy’n parhau – yn y rhifyn hwn mae Simon Brooks yn ymateb i’r ensyniad fod rhaid newid yr Eisteddfod i blesio’r di-Gymraeg, a Dafydd Wigley’n trafod ‘rhyddid’ ac ‘annibyniaeth’ yng nghyd-destun Cymru tra mae Dafydd ab Iago’n edrych ar ymateb ffyrnig o wrthwynebus cynheiliaid y drefn yn Sbaen i’r gefnogaeth gynyddol i Gatalonia annibynnol. Trafod crefydd ymhlith pencampwyr blaenllaw y mae Derec Llwyd Morgan, ac mae Lowri Haf Cooke wedi bod yn Efrog Newydd ar drywydd celfyddyd hynod bersonol y Gymraes Kathryn Ashill o Bontardawe. A pha winoedd sydd dan sylw ein colofnydd gwin Shôn Williams y mis hwn? Gwinoedd dathlu wrth gwrs. Mynnwch eich copi o rifyn disglair sy’n pefrio mewn mwy nag un ffordd!
Vaughan Hughes
Dwi wedi bod yn darllen hunangofiant* Meic Stephens, y pwerdy-un-dyn hwnnw o olygydd, awdur, cyfieithydd a choffäwr. Nid yw Meic ei hun yn hollol sicr faint o lyfrau’n union sydd ganddo i’w enw. Fyddwn i ddim ymhell ohoni, fodd bynnag, pe mentrwn glandro bod cyfanswm ei gyhoeddiadau rywle o gwmpas 180. A fyddwn i ddim yn cyfeiliorni’r mymryn lleiaf pe dywedwn mai’r pwysicaf o ddigon o blith y lliaws rhyfeddol hwnnw yw’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986) a ddiweddarwyd ac a helaethwyd un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach. Dyma gyfrol hollol anhepgor.