Trowyd y clociau, mae'n nosi'n gynt. Ond na hidiwch – estynnwch am Barn ac ymgollwch mewn rhifyn arall llawn dop o erthyglau diddorol. Cewch ragflas o gofiant newydd dadlennol Hywel Gwynfryn i Ryan a Ronnie, golwg ar dwf rhyfeddol Triathlon gan Nia Peris, a chip ar fyd swreal Caffi'r Caban, Pontcanna, gan Tony Bianchi. Mae Geraint Lewis yn dweud pam mae Benjamin Britten – 'cyfansoddwr mwya'r 20g.'– yn haeddu cael ei gofio, tra mae Andrew Misell yn trafod cynnyrch cyfoeswr i Britten, sef C. S. Lewis, awdur nofelau 'gwleidyddol anghywir ond gafaelgar'. Eisiau llonydd i fwrw ymlaen i ysgrifennu ei nofel hithau y mae Elin Llwyd Morgan, ac agweddau rhywiaethol at famau sy'n gweithio sydd wedi gwylltio Beca Brown. Wrth i Hywel Griffiths ymateb i ganfyddiadau diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd, mae Deri Tomos yn edrych ymhellach eto i'r dyfodol wrth ofyn cwestiynau mawr am ddyfodol bywyd ar y ddaear. Am hyn a llawer mwy, bachwch gopi.
Bethan Kilfoil
Mae Iwerddon yn dal i dalu’r pris – yn llythrennol a ffigurol – am y cyfnod anhygoel hwnnw ar ddechrau’r ganrif hon pan ymgyfoethogodd y wlad yn aruthrol dros nos, bron. Fel pob seren wib, digwydd a darfod fu hanes y golud. Ond mae’r galar yn aros.
Bloc o fflatiau ar gyrion Dulyn yw Priory Hall. Daeth yn symbol o bopeth a aeth o’i le yn ystod blynyddoedd y Teigr Celtaidd yn Iwerddon. Datblygu gwallgof ac ansafonol, rheolau cynllunio gwan, a morgeisi anferthol. Datblygwyr barus ac esgeulus, a phobol gyffredin yn benthyca arian mawr i fyw mewn bocsys bach anaddas – ac yna, yn methu talu.
Ond yn achos Priory Hall, roedd pethau’n waeth na hynny hyd yn oed. Fe arweiniodd yr esgeulustod a’r torcyfraith at ddioddefaint enbyd, ac yn y pen draw, at drasiedi.