Richard Wyn Jones
Drannoeth y bleidlais a setlodd, am y tro, ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban, fe ymatebodd David Cameron drwy godi cwestiwn dyfodol cyfansoddiadol Lloegr. Rhag i unrhyw beth fynd ar goll yn y cyfieithiad, mae’r awdur yn cydio i gychwyn yn yr union eiriau a ddefnyddiodd Prif Weinidog Prydain.
‘I have long believed that a crucial part is missing from this national discussion is England. We have heard the voice of Scotland – and now the millions of voices of England must also be heard. The question of English votes for English laws – the so-called West Lothian question – requires a decisive answer.’
Nid oedd dim yn annisgwyl yn ymateb Cameron i’r canlyniad. Bu’n amlwg ers tro fod y Blaid Geidwadol yn aros ei chyfle i godi baner Lloegr. Yn wir, gwn fod swyddfa Ed Miliband wedi derbyn rhybuddion penodol y byddai hynny’n digwydd yn syth petai’r Alban yn pleidleisio dros aros yn yr Undeb. Eto i gyd, pan gododd Cameron fater ‘pleidleisiau Seisnig ar gyfer cyfreithiau Seisnig’ (ac onid yw’r talfyriad Saesneg ‘EVEL’ yn rhy flasus i’w wrthod?) yr hyn a gafwyd gan Lafur oedd… tawelwch byddarol. Am gyfnod yr oedd arweinyddiaeth y Blaid Llafur fel petai wedi ei tharo’n fud yn wyneb strôc feistraidd y Prif Weinidog.
Dim ond rai oriau’n ddiweddarach y cafwyd unrhyw lun ar ymateb. Ddwy flynedd a mwy ers i Carwyn Jones awgrymu’r syniad fe benderfynodd arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig nad drwg o beth wedi’r cyfan fyddai cynnull Confensiwn Cyfansoddiadol i drafod dyfodol Lloegr a’r Deyrnas Gyfunol. Confensiwn a fyddai, mae dyn yn ei synhwyro, yn cymryd blynyddoedd maith i adrodd yn ôl. Ac yn achosi croes-dynnu mor ddifrifol rhwng ei aelodau nes esgor ar lu o wahanol gynlluniau anghymarus ar gyfer y dyfodol. Os bu ymdrech ddiweddar fwy amrwd ac amlwg i geisio claddu pwnc dadleuol yn y gwair hiraf a gwylltaf ei dyfiant ar ymyl eithaf y cae, yna ni fedraf i ei chofio.
Ers 19 Medi mae Aelodau Seneddol Llafur o Gymru a’r Alban wedi ymateb i hyfdra Cameron wrth iddo dynnu sylw at anfodlonrwydd Seisnig gyda’r Deyrnas Gyfunol trwy fabwysiadu rhethreg gynyddol histeraidd. Yn ôl Owen Smith byddai EVEL yn gyfystyr â ‘Tory gerrymandering’. Yn ôl Peter Hain byddai’n ‘fatal to Balkanise Westminster’ trwy gyflwyno cynllun o’r fath. Ac yn goron ar y cyfan dyma Gordon Brown yn honni ‘If you had wanted to kill off the UK, you could not have devised a more lethal way’.
I’r Llafurwyr hyn ymddengys fod hyd yn oed codi cwestiwn dyfodol Lloegr, heb sôn am y posibiliad o weithredu EVEL, yn weithred annilys. Hyn oherwydd nad oes unrhyw reswm gan y Saeson dros boeni am eu sefyllfa. Mewn darlith ddiweddar yng Nghaerdydd fe gyfeiriodd Rhodri Morgan at ‘Gwestiwn Gorllewin Lothian’ fel ‘minor constitutional anomaly’. Os felly, yr unig eglurhad posibl am y ffaith fod Cameron wedi codi’r mater yw ei fod â’i fryd ar wneud drygau. Yn benodol, am ei fod eisiau creu niwed gwleidyddol i’r Blaid Lafur.
Yn ddiau yr oedd ystyriaethau pleidiol ynghlwm wrth benderfyniad Cameron i godi ‘cwestiwn Lloegr’. Mae anallu arweinwyr Llafur i ddweud unrhyw beth synhwyrol ynglyn â Lloegr yn hysbys i bawb sy’n ymddiddori yn y materion hyn. A bydd y Prif Weinidog wedi mwynhau eu gweld yn gwingo. Ar ben hynny mae cyflwyno’r Torïaid fel amddiffynwyr buddiannau Lloegr hefyd yn fodd i geisio gwrthsefyll llanw UKIP, sef blaenoriaeth amlwg strategwyr Ceidwadol megis Lynton Crosby. Ond yn fwy sylfaenol na hyn, mae’r Ceidwadwyr yn ymateb i ddatblygiadau yn y farn gyhoeddus yn Lloegr.
Bydd darllenwyr Barn yn hen gyfarwydd bellach â chanlyniadau arolwg barn y Future of England Survey. Yn wir, cawsant fwy o sylw rhwng cloriau Barn nag ar dudalennau unrhyw bapur neu gyfnodolyn trwy’r ynysoedd hyn. Maent yn dangos yn eglur fod pobl Lloegr yn gyffredinol, ac yn arbennig felly pobl sy’n coleddu eu Seisnigrwydd yn hytrach na’u Prydeindod, yn teimlo fod Lloegr yn cael cam oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol. Maent am weld diwygio’r drefn er mwyn rhoi cydnabyddiaeth fwy eglur i Loegr (fel Lloegr) oddi mewn i’r wladwriaeth. Yn yr arolwg diweddaraf a gynhaliwyd ddiwedd mis Ebrill eleni, roedd 69% o bobl Lloegr yn cefnogi cyflwyno cyfundrefn EVEL. Nid yw’n ddoeth, yn deg nac yn wir yn ddemocrataidd i anwybyddu barn mwyafrif mor eglur...