Tachwedd 2015 / Rhifyn 634

Cofio Jack Pigau’r Sêr

Y mis hwn mae canmlwyddiant geni’r awdur John Griffith Williams. Ei ferch ANN GRUFFYDD RHYS sy’n cofio dechreuadau Pigau’r Sêr ac yn rhoi teyrnged bersonol iddo.
Gosododd Jack Williams ei feiro Bic Fine Point felen i lawr ar y papur a chodi ei ben unwaith eto i syllu trwy’r ffenest. Y tu allan i’r ‘Prefects’ Room’ chwythai’r plu eira’n glaerwyn yn erbyn yr awyr dywyll...

Ann Gruffydd Rhys
Mwy

Dreigiau, Cwrw a Llawer Mwy

Un a fu ym Mosnia a Herzegovina ddechrau Hydref sy’n codi cwr y llen ar yr hyn y mae dilyn tîm pêl-droed Cymru dramor yn ei olygu i’r cefnogwyr.
Mae’n hanner awr wedi chwech y bore ar yr M4. Rywle heb fod ymhell o Bont Hafren, mewn bws mini a’i drwyn o am y wawr, nid llygaid yn unig sy’n dechrau agor ond llond crât o ganiau Stella hefyd...

Rhys Iorwerth
Mwy

Dicter Cyfiawn Carwyn

Yn y Senedd yng Nghaerdydd ymarweddodd Prif Weinidog Cymru fel gwir arweinydd y genedl. Ac roedd gofyn iddo fod felly wrth ymateb i gynllun sydd, ym marn yr awdur, nid yn unig yn anymarferol ond yn sarhaus hefyd.
Fu Carwyn Jones erioed mor awdurdodol ag yr oedd wrth arwain y ddadl ar ddrafft Bil a fwriedir i sefydlu trefn ddatganoledig newydd i Gymru.

Richard Wyn Jones
Mwy
Materion y mis

TRYWERYN I: Dwr Oer

Mae i hanes boddi Cwm Tryweryn baradocs amlwg. Pe na bai Capel Celyn dan ddŵr, byddai’r cwm heddiw yn llawn tai haf, mewnfudwyr a phobol wedi ymddeol. Fyddai neb ifanc yno (byddent i gyd yng Nghaerdydd neu Gaernarfon). Byddai’r ysgol wedi hen gau, a’r swyddfa bost hefyd. Y capel fyddai unig sefydliad Cymraeg y pentref. O un peth y gallwn fod yn weddol sicr: ni fyddai’n gymdeithas gymdogaethol, werinol, uniaith Gymraeg.

Simon Brooks
Mwy
Materion y mis

TRYWERYN II: Llyn Gelyn

Mae pawb sy’n darllen hwn yn gwybod yn iawn – roedd boddi Capel Celyn yn fwy na boddi llythrennol. Roedd yn rhan o lifeiriant Saesneg dros iaith, dros ddiwylliant a thros ysbryd Cymru y mae ei effaith yn dal i gael ei deimlo yn y Bala, hanner canrif yn ddiweddarach.
Mae’r Bala, sef y dref agosaf at Gapel Celyn, yn dref Gymraeg sy’n dibynnu ar ymwelwyr Saesneg, yn dal i wynebu yr un ddilema – arian Lloegr ynteu Cymreictod?

Simon Thirsk
Mwy
O’r Alban

Arwyddion yr Amseroedd

Genhedlaeth a rhagor ar ôl i arwyddion ffyrdd dwyieithog gael eu codi drwy Gymru benbaladr, mae’r polisi o ddynodi enwau lleoedd mewn Gaeleg yn ogystal â Saesneg ar arwyddion ffyrdd yn yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd yn destun dadlau gwleidyddol ffyrnig.
Mae hynny’n syndod oherwydd dyw dwyieithrwydd yn cael dim sylw fel arfer yn yr Alban. Prin, mewn gwirionedd, yw’r rhai sy’n ystyried Gaeleg yr Alban yn iaith genedlaethol o gwbl.

Will Patterson
Mwy

Celfyddyd: Dinistr cadarnhaol – Golwg ar waith Ifor Davies

Luned Aaron

I gyd-fynd â’i ben-blwydd yn 80 mae arddangosfa gynhwysfawr o waith un o brif artistiaid Cymru ar fin agor yn yr Amgueddfa Genedlaethol – arddangosfa sydd â pharadocs diddorol wrth ei chalon.

Nid yw Ifor Davies erioed wedi bod yn un i wneud pethau yn ôl y disgwyl. Arddangosfa ôl-olwg – dyna oedd y gwahoddiad a gafodd tua phum mlynedd yn ôl gan Bennaeth Celfyddyd Gain a Modern yr Amgueddfa, Nicholas Thornton, a hynny ar argymhelliad cyn-Gyfarwyddwr Dysgu a Rhaglennu’r Amgueddfa, Mike Tooby. Ond y mae, yn hytrach, wedi dewis canolbwyntio ar un agwedd ar ei weledigaeth artistig, sef y modd y mae’r cysyniad o ddinistr mewn celf wedi’i amlygu ei hun yn ei waith ar hyd y degawdau.

O sgwrsio â’r artist yn ei stiwdio ym Mhenarth am y sioe arfaethedig, daw’n fwyfwy amlwg fod yr elfen o ddinistr a dadfeiliad wedi hydreiddio ei waith ers blynyddoedd lawer. Ysgogiad pwysig yn y cyd-destun hwn oedd ei ymwneud uniongyrchol â’r Symposiwm Dinistr mewn Celf, neu DIAS (Destruction in Art Symposium) yn Llundain ym mis Medi 1966.

Bu’r Symposiwm hanesyddol hwnnw’n gyfle i ymarferwyr o bedwar ban byd ddod ynghyd i drafod posibiliadau ac i ddatblygu perfformiadau. Syniadaeth wleidyddol oedd wrth wraidd y ffenomen, gydag amcanion uchelgeisiol gan artistiaid i ymwneud yn uniongyrchol â diwylliant fel modd i fynnu newid cymdeithasol a gwleidyddol. Ac roedd nifer o faterion rhyngwladol yn uno’r artistiaid, megis ymwybyddiaeth gref o fygythiadau niwclear. Cafwyd llawer o ymateb i’r Symposiwm gan y wasg ryngwladol, yn rhannol, o bosibl, oherwydd natur bryfoclyd a herfeiddiol y perfformiadau. Yn ôl rhai papurau newydd ar y pryd, arbrawf annoeth ac anarchaidd a gafwyd. Ond, meddai cefnogwyr y Symposiwm, nid dinistrio celfyddyd oedd bwriad y perfformiadau, ond yn hytrach cyfleu agweddau ar ddinistr oddi mewn i gelfyddyd. Mae’r gwahaniaeth yn un cynnil ond arwyddocaol.

Gustav Metzger oedd prif drefnydd y Symposiwm, a bu Ifor Davies yn ei gynorthwyo drwy gyd-drefnu a chadeirio nifer o’r digwyddiadau. Ymhlith yr artistiaid adnabyddus a oedd yn bresennol yr oedd Yoko Ono, John Latham, Barbara Gladstone ac Al Hansen.

‘O bosib, dyna’r adeg pan ddaeth y nifer mwyaf o artistiaid oedd ddim yn adnabod ei gilydd ynghyd, allen i feddwl,’ eglura Ifor Davies wrth hel atgofion am y cyfnod arwyddocaol hwn yn ei yrfa. ‘Fe wnaethon ni bethe fel perfformiadau, happenings – doedd neb yn siwr beth i’w galw nhw.’

Er na ddangosodd yr unigolion waith fel grwp gyda’i gilydd yn dilyn y mis Medi hwnnw yn Llundain, bu’n ddigwyddiad a fu’n gymorth i gynnal fflam eu gweledigaeth. Mae gyrfa eofn Ifor Davies yn ategu hynny; yn wir, nid gormodiaith fyddai dweud mai ef oedd yr artist cyntaf o Brydain, ac o bosibl Ewrop, i gynnwys ffrwydradau yn ei waith.

Daw’n amlwg wrth sgwrsio ag Ifor Davies fod yr ymwneud hwn â DIAS wedi bod yn allweddol yn natblygiad ei yrfa fel artist, a’r ymwneud hwnnw fydd canolbwynt y sioe yn yr Amgueddfa. ‘Rwy mo’yn i’r arddangosfa ganolbwyntio ar yr adeg honno a cheisio dangos shwd mae gweithie eraill rwy wedi eu gwneud yn gysylltiedig â DIAS ac yn dangos tebygrwydd.’

Mae elfennau o ddinistr yn ei waith yn dyddio mor bell yn ôl â’i blentyndod, pan fu’r bomio ar lefydd fel Penarth ei hun adeg yr Ail Ryfel Byd yn un ysgogiad iddo fynd ati i ddarlunio. ‘Sylwes i fod cyswllt â’r thema ers fy mhlentyndod, felly rwy’n dangos llunie yn yr arddangosfa a wnes i pan o’n i ryw bum mlwydd oed – llunie rhyfel a bomie ac yn y blaen. Ond mae yna waith perthnasol a wnes i nid yn unig cyn DIAS ond ers hynny hefyd.’ Enghraifft ddiweddar fyddai ei fewnosodiad Treth ac Angau sy’n ymateb i safiad Trefor ac Eileen Beasley dros yr iaith Gymraeg pan ddaru nhw wrthod talu’r dreth gyngor – testun sy’n agos at galon Ifor Davies. ‘Dros y blynydde, ro’n i wedi casglu’r trethi yn y garej, ac roedden nhw i gyd wedi pydru, ro’dd pryfed wedi eu bwyta nhw, a’r lliwie wedi newid yn hardd – felly fe’u dodes i nhw i gyd gyda’i gilydd ar gynfas a rhoi llun o’r Beasleys mewn cornel oherwydd eu safiad nhw.’

Ni fu prinder deunydd i’r curaduron, Nicholas Thornton a Judit Bodor, wrth iddynt fynd ati dros y tair blynedd diwethaf i ddewis a dethol gwaith ar gyfer yr arddangosfa. Wrth droedio trwy dardis stiwdio pedwar llawr Ifor Davies, gwelir archif bersonol helaeth a gweithiau celf niferus sy’n rhychwantu degawdau cynhyrchiol o greu. Yn ôl Nicholas Thornton, bydd y gweithiau a’r archif a ddewisir yn cael eu harddangos mewn pum ystafell eang yn oriel celf gyfoes yr Amgueddfa. Pwysleisia hefyd mai dyma’r arddangosfa fwyaf o waith unigolyn a fydd erioed wedi’i chynnal yn yr adeilad...

 

Mae’r arddangosfa,

Luned Aaron
Mwy