Mae rhywbeth ar droed ym maes treftadaeth ond does neb yn gwybod beth a dyw’r Gweinidog, Ken Skates, ddim wedi llwyddo i’n goleuo am hyn. Mae’n bosib nad yw hyn yn ddim mwy na Gweinidog yn ceisio profi ei fod yn ‘gwneud’ rhywbeth. Ar y llaw arall bu sibrydion fod Mr Skates, sy’n arbenigwr, gyda llaw, ar James Bond, yn awyddus i droi’r Llyfrgell Genedlaethol yn fwy o atyniad twristiaeth...
Mae perygl y bydd y tincro di-glem diweddaraf yn tanseilio annibyniaeth a hyder sector sydd wedi dioddef toriadau sylweddol yn diweddar.
Tachwedd 2016 / Rhifyn 646

Bygwth annibyniaeth yr Amgueddfa Genedlaethol

Y sbarc a’r anwyldeb. Atgofion dyddiau coleg am ‘Sid’. Cymwynaswr llenyddiaeth plant. Llifeiriant byrlymus ei nofelau i oedolion.
Cafodd y byd llenyddol Cymraeg golled anferth ym marwolaeth Gareth F. Williams, gyda’r mwyaf cynhyrchiol o’n hawduron, ar 14 Medi. Ysgrifennodd nofelau ar gyfer oedolion a phlant, yn ogystal â chyfrannu at fyd y ddrama deledu, gan gipio gwobrau ym mhob maes. Yma mae pedwar cyfaill yn cofio’r dyn a’i waith:

Dirgelwch ymadawiad Dafydd Êl
Rhyw fath o godi gwar a wnaeth nifer o aelodau Plaid Cymru o glywed am benderfyniad Dafydd Elis-Thomas i droi’n Aelod Annibynnol. Bu’n ddraenen yn ystlys yr arweinyddiaeth cyhyd fel bod rhai hyd yn oed yn mynegi rhywfaint o ryddhad.
Wrth esbonio ei resymau dros adael Plaid Cymru mynegodd Dafydd ei anhapusrwydd nad oedd y blaid wedi newid rhyw lawer ers datganoli. Ond mewn gwirionedd mae’r blaid wedi newid, a’r newid mwyaf oedd ethol Leanne Wood. Efallai nad dyna’r math o newid oedd ganddo mewn golwg.

Arbrawf a fethodd
Technoleg amherffaith sy’n cael rhan o’r bai gan MEG ELIS na fwynhaodd gynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol o gwbl – ond nid hynny’n unig oedd i’w feio, meddai.
Merch yr Eog/Merc’h an Eog
yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourgès
Theatr Genedlaethol Cymru/Theatr Piba
Galeri Caernarfon, 17 Medi
Cynhyrchiad tairieithog yw Merch yr Eog, gydag ap Sibrwd ar ffôn symudol i gyfleu’r digwydd yn newis iaith aelodau’r gynulleidfa. Dyma un o fethiannau’r perfformiad hwn: y trafferthion enbyd gyda’r dechnoleg...
Wedi dweud hynny, yr wyf yn cofio perfformiadau a lwyddodd i oresgyn pob math o ddiffygion allanol, trwy rym y geiriau neu ysblander yr apêl at y llygaid a’r synhwyrau...
Ond pan ddaw’n fater o areithiau am y thema, câi rhywun yr argraff mai dyna’n union oeddent – areithiau, heb unrhyw newydd-deb. Ac yr oedd hyn yn wir os oeddech chi’n deall yr iaith neu beidio.
Mae’n drueni pan fo arbrawf yn siomi...

Donald, Hillary . . . a Ken
Yr ymgyrch arlywyddol yn yr Unol Daleithiau yw’r un fwyaf negyddol o fewn cof. Dyma adroddiad academydd sy’n treulio cyfnod yn Cambridge, Massachusetts.
Gofynnodd Ken ei gwestiwn ac ymhen dim roedd y dyn crwn hwn yn y siwmper goch wedi troi’n un o arwyr y gwefannau cymdeithasol yn UDA. Cyn yr ail ddadl deledu arlywyddol roedd saith yn dilyn ei drydariadau (wel, chwech a bod yn fanwl – roedd gan ei nain ddau gyfrif gwahanol). Dros y dyddiau dilynol roedd nifer ei ddilynwyr wedi cyrraedd chwarter miliwn. Cafodd Ken, a hynny’n ddi-ffael yn ei siwmper goch, ei gyfweld ar sianeli megis CNN. Roedd o bellach yn arwr.

Bil Cymru – ‘gwrthnysig a chrintachlyd’ Pennod fethiannus arall
Mae’r ymgais ddiweddaraf i lunio ‘setliad’ datganoledig safadwy i Gymru yn drefedigaethol o ran meddylfryd ac yn gam yn ôl.
Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ei broblemau. Ond, argol fawr, mae angen chutzpah a graddfa arbennig iawn o hunan-dyb i bledio goruchafiaeth San Steffan dros Fae Caerdydd pan gofir y llanast llwyr y mae’r cyntaf wedi ei wneud o’r ddeddfwriaeth sy’n sail i’r ail. Go brin fod ’na well enghraifft yn unman o fethiannau ‘Mam y Seneddau’ na deddfau datganoli Cymru...
Mae’r cyfan yn sarhad. Da y dywedodd Elystan Morgan yn Nhŷ’r Arglwyddi: mae’r meddylfryd y mae Whitehall wedi ei arddangos wrth lunio Bil Cymru yn un trefedigaethol.