Criw o dadau a ddechreuodd y cyfan. Roeddent yn anfon eu plant am wersi Cymraeg ar foreau Sadwrn ac yn awyddus iddynt gael addysg drwy gyfrwng yr iaith. Gwireddwyd eu breuddwyd, wedi cryn frwydr, yn 1958 pan agorodd Ysgol Gynradd Gymraeg Llundain ei drysau am y tro cyntaf gyda deg ar hugain o blant. Eleni mae’n dathlu ei phen-blwydd yn drigain oed.
Bu’r ysgol ar grwydr o gwmpas prifddinas Lloegr dros y blynyddoedd cyn cyrraedd ei chartref presennol yng Nghanolfan Gymdeithasol Hanwell yng ngorllewin Llundain. Hen wyrcws yw’r ganolfan lle bu Charlie Chaplin gynt yn ddisgybl ac mae ’na lun gwengar ohono yn y cyntedd.
Yn goron ar ddathliadau’r pen-blwydd arbennig eleni, mae adroddiad diweddar gan Ofsted yn diffinio’r sefydliad fel un ‘Da’ gydag elfennau ‘Rhagorol’. Nid bod angen rhyw gorff biwrocrataidd i gadarnhau’r hyn y mae’r rhieni yn ei deimlo’n barod am yr ysgol hynod hon.