Yn 2014 dangosodd pôl piniwn gan ICM ar ran y BBC mai dim ond 48% o boblogaeth Cymru a ddeallai mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ac mor ddiweddar â mis Chwefror eleni roedd Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur yn ymgyrchu yn erbyn cau adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Roedden nhw’n gwneud hynny gan wybod bod y cyhoedd mor anwybodus a dryslyd fel na fyddai’r mwyafrif yn sylweddoli bod Llafur, i bob pwrpas, yn ymgyrchu yn erbyn eu plaid eu hunain.
Byddai’n ddiddorol pe byddai ICM a’r BBC yn cynnal pôl piniwn o’r boblogaeth eto heddiw er mwyn holi faint fyddai’n gwybod pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth iechyd. Ymddengys yn hynod annhebygol y byddai’r mwyafrif bellach yn anwybodus.
Dechrau digon ansicr fu i ymdrechion Llywodraeth Cymru i hysbysu pobol mai nhw fyddai’n rheoli ymateb y genedl i Covid-19. Cafwyd erthygl ganol mis Mawrth ar wefan Nation.Cymru, yr ydw i’n olygydd arni, gan y lobïwr Daran Hill yn beirniadu’r ymdrechion cychwynnol yn hallt. Cefais neges braidd yn biwis yn ymateb gan unigolyn o fewn y llywodraeth yn dweud, ‘Does gen ti ddim syniad pa mor galed ydan ni’n gweithio ar hyn o bryd.’
Ond efallai, petaent heb adael i ugain mlynedd o ddryswch bwriadol ddatblygu ynglŷn â phwy oedd yn rhedeg y gwasanaeth iechyd, fydden nhw ddim wedi gorfod gweithio mor galed? Efallai, pe na baen nhw gwta fis ynghynt wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn eu gwasanaeth iechyd eu hunain, y byddai pobol eisoes wedi deall y pethau sylfaenol yma?
Mae’r ffaith eu bod wedi llwyddo i hysbysu’r cyhoedd pwy oedd â’r grym i ymateb i Covid-19 mor gyflym yn brawf o’u gwaith caled nhw a hefyd o shifft aruthrol gan yr ychydig gyfryngau sydd gyda ni yma yng Nghymru. Ond dydw i ddim yn siŵr a fyddai hynny wedi bod yn ddigon ynddo’i hunan. Wedi’r cyfan, ychydig sy’n cael eu newyddion o ffynonellau Cymreig gan amlaf.